Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 09:55 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Dafydd Elis-Thomas (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Russell George Vaughan Gething Llyr Huws Gruffydd Julie James William Powell David Rees Antoinette Sandbach |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Gregg Jones (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2. Ymchwiliad i Ynni - Papur cwmpasu a chylch gorchwyl drafft
2.1 Pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig y byddai ei ymchwiliad cyntaf ar ynni. Pleidleisiodd wyth Aelod o blaid y cynnig, un yn ei erbyn ac ni phleidleisiodd un Aelod.
2.2 Trafododd y Pwyllgor y cylch gorchwyl drafft a rhai o’r diwygiadau.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor y dylid dosbarthu’r cylch gorchwyl drafft diwygiedig i’r Aelodau mewn e-bost er mwyn iddynt ei gymeradwyo.
3. Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Ffyrdd o weithio
3.1 Pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig i sefydlu dau grŵp gorchwyl a gorffen: un i ystyried y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r llall i ystyried y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Pleidleisiodd pum Aelod o blaid y cynnig, pedwar yn ei erbyn ac ni phleidleisiodd un Aelod.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Aelodau’n hysbysu’r Clerc ynghylch pa un o’r grwpiau gorchwyl a gorffen yr hoffent fod yn aelod ohono.
4. Deisebau: P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth & P-04-324 Dywedwch Na i TAN 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel difetha ein cymuned
4.1 Trafododd y Pwyllgor y deisebau a chytunodd y dylid eu cynnwys yn ei ymchwiliad i ynni.
4.2 Byddai’r Cadeirydd yn ymateb yn ffurfiol i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
5. Cylch gwaith y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - y Cyd-destun Ewropeaidd
5.1 Gwnaeth Gregg Jones o’r Gwasanaeth Ymchwil ym Mrwsel gyflwyniad i’r Pwyllgor am ei rôl a sut y gallai gynorthwyo gwaith y Pwyllgor.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.